Business and Leadership Programme

Business and Leadership Programme

Supported by / Cefnogir gan:

Creative Wales, TAC and BBC Cymru Wales logo

Business and Leadership Programme (Select for English)

6 month part-time course

This brand new course has been carefully designed to give producers, managers, creative leads and company owners the skills, confidence and knowledge to run a successful creative business. Exclusively for those working in tv and film in Wales, the course will have a particular focus on commercialisation and how to achieve growth by developing a sound business strategy, building your confidence and expanding your network.

The course will run over 10 days which will be delivered in person and spread across a 6 month period, starting in September 2023.  The teaching will be a combination of tutor- led sessions delivered by industry practitioners, and masterclasses with leading figures in the creative industries who will share their own experience, insights and wisdom.

Each participant will also be carefully matched with an industry mentor for four hours of one-to-one support to help them address particular challenges in their business.

Topics covered by the course will include:

  • effective leadership skills
  • basic accounting
  • deal-making and negotiating skills
  • navigating and exploiting global markets
  • accessing finance and exploiting IP
  • how to pitch to investors
  • sustainable production 
  • creating a healthy company culture

Course Fee: £300

Who Can Apply:

This course is heavily subsidised by Creative Wales and applicants must be based in Wales to be eligible for a place. We do not require a minimum level of experience in the tv and film industry, but applicants will need to be currently working at a level where they have a degree of financial and managerial responsibility within a company.

Applications closed

Closing date: 25 of June 

For more information or to discuss your suitability to apply, please email us on wales@nfts.co.uk

Rhaglen Busnes ac Arweinyddiaeth (Gwasgwch i ddarllen y Gymraeg)

Cwrs rhan-amser 6 mis

Mae'r cwrs newydd sbon hwn wedi'i gynllunio'n ofalus i roi sgiliau, hyder a gwybodaeth i gynhyrchwyr, rheolwyr, arweinwyr creadigol a pherchnogion cwmnïau i redeg busnes creadigol llwyddiannus. Yn unswydd ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes teledu a ffilm yng Nghymru, bydd gan y cwrs bwyslais penodol ar fasnacheiddio a sut i greu twf drwy ddatblygu strategaeth fusnes gadarn, adeiladu eich hyder ac ehangu eich rhwydwaith.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros 10 diwrnod ac yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb ac wedi'i wasgaru dros gyfnod o 6 mis, gan ddechrau ym mis Medi 2023. Bydd yr addysgu yn gyfuniad o sesiynau dan arweiniad tiwtoriaid a fydd yn cael eu cyflwyno gan ymarferwyr o fewn y diwydiant a dosbarthiadau meistr gyda phobl flaenllaw yn y diwydiannau creadigol, a fydd yn rhannu eu profiadau, eu dealltwriaeth a’u doethineb.

Bydd pawb sy’n cymryd rhan hefyd yn cael eu paru’n ofalus gyda mentor o fewn y diwydiant am bedair awr o gymorth un-i-un i’w helpu i fynd i’r afael â heriau penodol yn eu busnes.

Bydd pynciau’r cwrs yn cynnwys:

  • sgiliau arwain effeithiol
  • cyfrifeg sylfaenol
  • sgiliau taro bargen a negodi
  • llywio drwy farchnadoedd byd-eang a manteisio arnyn nhw
  • cael mynediad at gyllid a manteisio ar IP
  • sut i gyflwyno syniadau i fuddsoddwyr
  • cynhyrchu cynaliadwy
  • creu diwylliant iach o fewn y cwmni

Ffi y Cwrs: £300

Pwy sy’n gallu gwneud cais:

Mae'r cwrs hwn yn derbyn cymhorthdal sylweddol gan Gymru Greadigol a rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u lleoli yng Nghymru i fod yn gymwys am le. Nid oes angen lefel ofynnol o brofiad yn y diwydiant teledu a ffilm, ond bydd angen i ymgeiswyr fod yn gweithio ar hyn o bryd ar lefel lle mae ganddyn nhw rywfaint o gyfrifoldeb ariannol a rheoli o fewn y cwmni.

Ceisiadau ar gau

Dyddiad cau: 25 o Fehefin.

Am fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod eich addasrwydd i wneud cais, e-bostiwch cymru@nfts.co.uk

 

 

 

 

 

 

Content Tabs